Diweddaraf

Ysgol Theatr Maldwyn
Sefydlwyd Ysgol Theatr Maldwyn ym mis Medi 2004, er mwyn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ddysgu a datblygu sgiliau theatr trwy gyfrwng y Gymraeg. Ar hyn o bryd mae 50 o bobl ifanc rhwng 11 a 15 oed yn cyfarfod yn wythnosol yng Nghanolfan y Banw ger Llanfair Caereinion. Ym mis Medi 2005, sefydlwyd ail grŵp i bobl ifanc rhwng 15 ac 18 oed, sy’n cyfarfod yn wythnosol yng Nghanolfan Gymunedol Glantwymyn.
Yn ogystal a chymryd rhan mewn cyngherddau, bydd aelodau yn derbyn y profiad o berfformio drama gerdd o bryd i’w gilydd. Bydd y ddau grŵp yn treulio cyfnodau yn hyfforddi a dysgu sgiliau actio, canu a dawns. Eleni, cawsom lwyddiant arbennig gyda’n cynhyrchiad o “Pum Diwrnod o Ryddid”.