Rydych yma : Hafan > Sioeau > Crib, Siswrn a Rasel

Crib, Siswrn a Rasel

1 Awst 2006 | Categori: Sioeau

 

 Ysgrifennwyd "Crib, Siswrn a Rasel" gan Linda Gittins, Derec Williams a Penri Roberts ar gyfer Ysgol Theatr Maldwyn yn 2006.

Mae’r sioe gyfoes hon yn seiliedig ar y Chwedl Culhwch ag Olwen. Hanes Culhwch yn syrthio mewn cariad gyda Olwen a geir yma. Gwelodd Culhwch lun o Olwen, sef merch y cawr Ysbaddaden, mewn llun yng nghylchgrawn trin gwallt go arbennig. Mae’n rhaid i Culhwch gwblhau nifer o dasgau cyn y gall ennill llaw Olwen. Mae Ysbaddaden yn gosod tri tasg i Culhwch: achub ei weithiwr Mabon o grafangau y Twrch Trwyth, sicrhau siampw enwog y Wrach Widdon o’i labordy ac achub gwobr arbennig a ennillodd Ysbaddaden fel ‘Barbwr y Flwyddyn’ – sef crib, siswrn a rasel aur – trysorau a gipiwyd gan y Twrch.

 

 

 

        

 

 

Y Brenin Arthur a'i ferched trin gwallt. Tipyn o foi!!

 

 

 

 

                       

 

 

Culhwch ag Olwen - ac mae'r ddau yn dal yn aelodau!!

 

 

 

 

         

Pwy yw'r ferch yn y llun tybed?

Blaenorol

Video

Crib, Siswrn a Rasel Video

Main Menu

Contact

Ysgol Theatr Maldwyn
7 Stryd Fawr, Llanidloes, Powys, SY18 6BY
Tel : 01686 413480

Rhif y Cwmni: 5289639