Rydych yma : Hafan > Sioeau > Llwybr Efnisien

Llwybr Efnisien

1 Mai 2007 | Categori: Sioeau

Sioe newydd ar gyfer Ysgol Theatr Maldwyn yw “Llwybr Efnisien”, yn seiliedig ar stori Branwen o’r Mabinogion. Mewn dawns a chân, bydd y cwmni ifanc hwn yn ein tywys drwy’r stori sy’n cychwyn mor ramantus, ond sydd yna’n dirywio i sarhad, dial ac yn y pen draw, difodiant. Mae priodas Branwen, chwaer y Brenin Bendigeidfran, a Matholwch, Brenin Iwerddon yn llawn gobaith wrth geisio uno Iwerddon ac Ynys y Cedyrn. Mae yma obaith am gyd-fyw, gobaith am heddwch rhwng y ddwy wlad. Ond i ganol y gobaith a’r llawennydd hwn, daw yr hanner brawd Efnisien.

Mae o’n flin na ofynnodd neb iddo am ei fendith i’r briodas, yn gweld y cyfan fel sarhad personol ac yn ei wylltineb, mae o’n dial mewn ffordd fileinig ar feirch Matholwch. Mae’r hadau o ddial sy’n cael eu hau yma yn arwain yn y diwedd at ddifodiant y ddwy wlad. Er mai hen stori ydyw, mae’r cynyrchiad hwn a’i neges yn amserol o hyd. Onid sarhad, a dial sy’n arwain y byd hyd heddiw i ryfel a difodiant – wrth ddilyn Llwybr Efnisien?

 

       

 

           

 

        

 

Blaenorol

Video

Llwybr Efnisien Video

Main Menu

Contact

Ysgol Theatr Maldwyn
7 Stryd Fawr, Llanidloes, Powys, SY18 6BY
Tel : 01686 413480

Rhif y Cwmni: 5289639